At Cain, we believe in creating exciting and original product designs to make people happy. Our promise is to produce loveable, trend-led and affordable homeware and jewellery with a quirky twist.
Our story begins back in 2009 when our founder, Rhian caught the retail bug. "Cain" was named by Rhian's mother, as its definition in Welsh fits our products: something elegant, fair and fine.
It all started at the back of the house in a garden shed where Rhian would design and create her own jewellery. The jewellery would then be sold at craft fairs and market stalls. By the end of 2010 Cain had outgrown the garden shed, and needed a larger base to both create and sell. On the 15th November 2010, Cain opened the door to its shop, located in the beautiful Anglesey market town of Llangefni.
As a family run business, we pride ourselves to continue in providing customers with the best homeware and jewellery.
And to continue with our story, we have launched this exciting website to mark our 7th anniversary. We hope you will continue to enjoy our products and designs, and that they will make you just as happy as we are.
We now also offer a beginners jewellery making classes with afternoon tea.
Yn Cain, rydym yn credu mewn creu cynnyrch cyffrous a gwreiddiol fydd yn codi calon. Ein addewid yw cyflwyno darnau hyfryd sydd ar flaen y gad ffasiynol, sydd yn fforddiadwy ac yn rhoi dewis eang o gynnyrch i’r cartref a gemwaith deniadol, hynod.
Mae ein stori yn dechrau nôl yn 2009, pan gafodd Rhian, sylfaenydd Cain, yr ysfa i droi ei llaw at fân-werthu.
Syniad Mam Rhian oedd bedyddio’r cwmni yn ‘Cain’ gan fod y diffiniad yn adlewyrchu ein cynnyrch: rhywbeth coeth a hardd.
Dechreuodd pob dim yng nghefn y tŷ mewn sied yn yr ardd lle bu Rhian yn dylunio a chreu ei gemwaith. Wedyn mynd ymlaen i werthu'r gemwaith mewn ffeiriau a stondinau marchnad. Erbyn diwedd 2010 roedd Cain wedi tyfu allan o'r sied ac angen safle parhaol, mwy er mwyn creu a gwerthu.
Ar 15fed o Dachwedd 2010, agorwyd drysau siop Cain sydd wedi ei lleoli yn nhref farchnad hardd Llangefni ar Ynys Môn. Fel busnes teuluol balch, ein nod yw parhau i gynnig cynnyrch cartref a gemwaith o’r safon gorau i’n cwsmeriaid. Ac i barhau gyda'n stori, lansiwyd y wefan gyffrous hon i ddathlu ein 7fed penblwydd.
Rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau ein cynnyrch a’n dyluniadau, a’u bod yn llwyddo i’ch plesio chi gymaint ac y maent yn ein plesio ni.
Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau i ddechreuwyr.. dewch draw i ddysgu sgiliau creu gemwaith tra’n mwynhau te prynhawn.